August Bebel

August Bebel
August Bebel (tua 1900).
Ganwyd22 Chwefror 1840 Edit this on Wikidata
Deutz, Cwlen Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 1913 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Passugg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, turner Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Reichstag of the German Empire, member of the Reichstag of the North German Confederation, Member of the Customs Parliament Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Social Democratic Workers' Party of Germany, Saxon People's Party Edit this on Wikidata
PriodJulie Bebel Edit this on Wikidata
PlantBertha Friederike Bebel Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd ac awdur sosialaidd o Almaenwr oedd August Bebel (22 Chwefror 184013 Awst 1913) sydd yn nodedig fel un o sefydlwyr Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen ac am arwain yr honno am 44 mlynedd, ers ei sefydlu hyd at ei farwolaeth.

Ganed ef yn Deutz, ger Cwlen, yn Nheyrnas Prwsia. Turnio oedd ei grefft. Ymunodd â Chymdeithas Addysg Gweithwyr Leipzig ym 1861 a phenodwyd yn gadeirydd yr honno ym 1865. Dylanwadwyd arno gan syniadau ei gyfaill Wilhelm Liebknecht, ac ym 1869 cyd-sefydlasant y Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol (yn ddiweddarach y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol). Gwasnaethodd yn y Reichstag ym 1867, 1871–81, a 1883–1913. Fe'i carcharwyd am bum mlynedd i gyd, gan gynnwys am enllibio'r Canghellor Otto von Bismarck. Ysgrifennodd sawl traethawd a gwaith propaganda, gan gynnwys Die Frau und der Sozialismus (1879).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search